2011 Rhif 2660  (Cy. 284 )

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu yn rheoliad 3 ar gyfer amnewid rheoliad 3 o Reoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), gan roi effaith i hynny o 5 Rhagfyr 2011 ymlaen. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2007 yn ymwneud ag aelodaeth a threfniadau cyfarfod grŵp strategaeth ar gyfer pob ardal llywodraeth leol, sydd â’r swyddogaeth o baratoi  asesiadau strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9. 

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor y gofyniad ynglŷn â chyfnod o dair blynedd yn rheoliad 9(a) o Reoliadau 2007, mewn cysylltiad â chynllun partneriaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2011 Rhif 2660 (Cy.284 )

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                              1 Tachwedd 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Tachwedd 2011

Yn dod i rym                          5 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 6(2), (3), (4) a (9)(b) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2011.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007([3]).

Diwygio Rheoliadau 2007

2. Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn. 

3. Yn lle rheoliad 3 rhodder—

Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth

3.—(1) Mae grŵp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal, a'i swyddogaethau fydd—

(a)   paratoi asesiadau strategol; a

(b)   paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth,

ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i’r grŵp strategaeth gynnwys dau neu ragor o bersonau a benodwyd gan un neu ragor o’r awdurdodau cyfrifol yn yr ardal.

(3) Os oes mwy nag un awdurdod cyfrifol o’r math a bennir yn adran 5(1)(aa) o Ddeddf 1998 yn yr ardal, rhaid i’r darparwyr hynny benodi ar y cyd un neu ragor o bersonau i’r grŵp strategaeth.

(4) Mewn cyfarfod o grŵp strategaeth, caiff personau fod yn bresennol sy’n cynrychioli personau a chyrff sy’n cydweithredu ac yn cymryd rhan, ac unrhyw bersonau eraill a wahoddir gan y grŵp strategaeth.

(5) Rhaid bod gan y grŵp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant arian partneriaeth ac i asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y cyfryw wariant..

4. Yn rheoliad 9(a) hepgorer y geiriau “yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2)”.

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

1 Tachwedd 2011



([1])           1998 p. 37; amnewidiwyd adran 6 gan adran 22 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48) a pharagraff 3 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 108(4) a (5) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26). 

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2007/3078 (Cy.265).